Gan ddawnsio'r ddwystep ar ysgafn draed, fe hwylia Amanda Griffkin yn ei blaen
Mae Bwrdd Impelo wedi datgan y bydd ei Gyfarwyddydd Artistig Amanda Griffkin yn gadael y cwmni cyn diwedd y flwyddyn ar ôl iddi ei arwain ers mwy na naw blynedd.
Dywedodd Cyfarwyddydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr Jennifer Owen Adams:
“Mae’n achlysur trist inni ffarwelio ag Amanda. Dyna daith rydyn ni wedi ymgymryd â hi dan ei harweiniad carismatig penderfynol hi! Ag Amanda wrth y llyw, mae’r Bwrdd wedi gweld y cwmni’n gweddnewid o fod yn wasanaeth celfyddydau’r awdurdod lleol, Powys Dance a throi’n Impelo, sefydliad elusennol annibynnol, bach ond grymus.
Sicrhau bod llawenydd a grym dawnsio yn hygyrch ac ar gael i bawb – dyna sy’n symbylu Impelo. Ym mhopeth a wnawn ni, rydym yn gwahodd ac yn annog pobl o bob oedran, o bob lliw a llun, i ddarganfod a datblygu eu hawch i’w mynegi eu hunain a mwynhau gwerth trosgynnol dawnsio fel iaith sy’n gyffredin i bawb.
Credwn ni yng ngrym gweddnewidiol dawnsio, ac rydym am ei hyrwyddo a’i gydrannu ym mhopeth a wnawn ni, ymhle bynnag y’i gwnawn ni. Rydym yn ymdrechu hefyd i ehangu ein dylanwad trwy amlygu buddion dirif dawnsio ar lwyfannau mwy, ac i sicrhau dyfodol disglair llawn profiadau gweddnewidiol i bawb y mae ein neges yn eu cyrraedd. Dros y naw blynedd a hanner diwethaf mae Amanda wedi gosod y gwerthoedd a’r amcanion hyn wrth galon popeth y mae Impelo’n ei wneud; o ganlyniad, bydd hi’n gadael y sefydliad hwn mewn cyflwr ffyniannus iach. Rydym yn dra diolchgar am bopeth y mae hi wedi’i gyflawni; ac yn arbennig am ei harweiniad a’i gweledigaeth barhaol trwy gydol y pandemig, gan ddod â buddion dawnsio i bobl ar hyd a lled Powys ac yn ehangach byth, ar gyfnod pan nad oeddem yn gallu gadael ein cartrefi. Amanda, byddwn yn gweld dy golled di, a dymunwn bob hapusrwydd iti yn y dyfodol.”
Dywedodd Amanda
“Ar ôl naw blynedd a hanner gyda Powys Dance / Impelo, mae’n bryd i fi symud ymlaen. Dw i’n ddiolchgar dros ben i bawb yr ydyn ni wedi gweithio â nhw dros y cyfnod yma am y cymorth dw i wedi’i dderbyn ganddynt, ac yn enwedig y rhai a fentrodd roi cyfle i fi ac i elusen newydd i lwyddo.
Bu’n fraint i mi gael gweithio gyda thîm mor ymroddedig ar ein portffolio gweithgareddau. Dw i’n wir falch o’r cwmni yma ac o’r hyn yr ydyn ni wedi’i gyflawni gyda’n gilydd. Uchafbwynt pwysig i mi oedd creu Y Nyth, rhaglen ddatblygu busnes a rhwydweithio ar gyfer artistiaid ac ymarferwyr dawnsio annibynnol sy’n byw ac yn gweithio ym Mhowys.
“Rwyf wedi mwynhau herio disgwyliadau dawnsio cymunedol trwy ddod â gwerthoedd esthetig ac artistig cynhyrchiadau dawnsio proffesiynol ynghyd â llais cryf y rhai sy’n cyfranogi, mewn prosiectau megis y gosodwaith ymhlith gwahanol genedlaethau Under Dark Skies.
“Rydym wedi ffurfio partneriaethau cyffrous er mwyn datblygu gwaith teithiol ‘dawnsio gwyddonol’ uchelgeisiol ar gyfer plant a theuluoedd yn cynnwys CELL, gyda chyfraniadau gwyddonol gan Goleg Imperial Llundain, Prifysgol Rhydychen, a setiau wedi’u dylunio gan Messam.
“Mae grym ein gweledigaeth a’n huchelgeisiau cyffredin ni ynghylch sut gallai dawnsio cymunedol ddatblygu ar gyfer pobl Powys wedi gyrru’r gwaith yma yn ei flaen, ac rwy’n hynod falch o bopeth yr ydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd fel elusen dros y chwe blynedd diwethaf hyn. Carem ddiolch yn enwedig i fwrdd Impelo. Allwn i ddim bod wedi gofyn am dîm mwy ysbrydoliaethus na mwy cefnogo na chi - diolch o galon.”
Gan edrych ymlaen at y dyfodol, dywedodd Jennifer:
“Mae Amanda’n gadael Impelo mewn sefyllfa gref, a hyderwn – pan ddaw’r amser inni recriwtio rhywun i gymryd ei lle – y bydd y rôl yma’n un dra dymunol. Ar gyfer y dyfodol agos, mae’n bleser gennym ddatgan mai Jemma Thomas, sydd wedi gweithio ochr yn ochr ag Amanda yn Impelo ers sawl blwyddyn, fydd yn ymgymryd â rôl y Cyfarwyddydd Artistig Cyfamser am y chwe mis nesaf. Bydd Jemma, ar y cyd â’r Cyfarwyddydd Gweithredol Suzy West, yn sicrhau bod y gwaith ardderchog y mae’r cwmni wedi bod wrthi’n ei gyflawni ym meysydd dawnsio ac iechyd, dysgu creadigol a chydraddoldeb, amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn, yn parhau i dyfu.
O safbwynt y Bwrdd, Jemma yw’r dewis delfrydol i ganlyn arni â’r gwaith y mae hi wedi’i wneud yn barod yn Impelo. Mae Jemma yn adnabyddus, ac mae hi wedi ennill parch mawr ym Mhowys ac ar raddfa ehangach yn y sector dawnsio yn sgil y gwaith y mae hi wedi’i gyflawni ar Codi, rhaglen ddawnsio Impelo dan arweiniad pobl ifanc ar gyfer merched a menywod ifanc. Mae hi’n canolbwyntio’n gryf ar archwilio’r materion sy’n broblemau ‘byw’ i fenywod ifanc, gan atgyfnerthu eu hunan-ddelwedd gorfforol a’u hunanhyder trwy symud. Fel rhan o’r prosiect, galluogodd Jemma’r bobl ifanc i gomisiynu 14 o ddawnswyr ac artistiaid proffesiynol i weithio gyda nhw. Bu’r darn coreograffedig a ddeilliodd o hyn ymhlith y terfynwyr cenedlaethol yng nghystadleuaeth U Dance. Yn ogystal mae Jemma wedi arwain ein gwaith cynyddol sy’n ymateb i effaith gymdeithasol y pandemig, gan flaenoriaethu gwaith gyda dawnswyr dan bedair oed megis Pysgod Mawr Pysgod Bach. Arweiniodd ein rhaglen Y Nyth hefyd, wedi’i hariannu gan Sefydliad Foyle, sy’n creu cyfleoedd cyflogaeth a llwybrau datblygiad proffesiynol ar gyfer dawnswyr proffesiynol ym Mhowys”.
Hyfforddwyd Jemma yn y Theatr a Pherfformio ym Mhrifysgol Plymouth, lle arbenigodd mewn Dawnsio gan berfformio yn Theatr y Barbican yn Plymouth, y Tobacco Factory ym Mryste a Theatr Roland Levinsky. Gellid tybio bron bod ei phenderfyniad i ddychwelyd i Gymru a dechrau cyflwyno sesiynau ar gyfer Impelo yn y Ganolfan Ddawnsio wedi’i ddarogan – 30 mlynedd ynghynt bu tad-cu a mam-gu Jemma, Ted ac Olwyn, yn dysgu dawnsio dilyniant a dawnsio neuadd yn yr un lle! Yn 2012 ymgymerodd Jemma â phrentisiaeth mewn Dawnsio Cymunedol gyda Chwmni Dawnsio Rubicon yng Nghaerdydd cyn gweithio’n llawrydd gyda Rubicon ac Impelo, gan lunio llwybr ei gyrfa ddawnsio ei hun trwy ymgymryd â gwaith coreograffi gyda Theatr Ieuenctid Canol Powys a chyflwyno gweithdai a dosbarthiadau ar gyfer ystod o gwmnïau a sefydliadau yng Nghymru.
Esboniodd Jemma yr hyn sy’n ysgogi ei gwaith:
“Fy uchelgais mwyaf yw hybu grym y rhai sy’n cymryd rhan, a gwneud Impelo’n rhan o fywyd y gymuned yma ym Mhowys, p’un ai trwy gyfrwng dosbarthiadau, prosiectau, partneriaethau, perfformiadau ac ati. Mae datgloi a rhyddhau hyder creadigol yn rhywbeth dw i am ei gyflawni i holl bobl ifanc Powys, a dw i’n credu y gall dawnsio fod yn gatalydd i hyn ddigwydd. O safbwynt artistig mae fy mhrif ddiddordeb mewn gwaith aml-ddisgyblaethol. Dw i’n dwlu ar wylio dawnsio sy’n weledol gyffrous, a dw i’n edrych ymlaen at gydweithio ag artistiaid mewn disgyblaethau eraill at gynnig i’n cyfranogion ni lwybrau amgen at symud. Bydd y model ar gyfer creu gwaith proffesiynol ym Mhowys gyda’n tîm presennol o ddawnswyr a/neu rai sy’n newydd i Impelo yn aros wrth galon gwaith Impelo; fe barhawn ni i gynnig i’r dawnswyr waith artistig gyffrous a fydd yn croesbeillio ein gwaith maes gyda’n cymuned ni.
Mae brwdfrydedd mawr gen i dros ddatblygu ein gwaith ar gyfer y blynyddoedd cynnar, y rhychwant oedran hudolus hwnnw rhwng 0 a 5 mlwydd oes sydd mor lawn potensial, ac rydyn ni’n awyddus i ddatblygu methodoleg symud mewn sawl ffordd a fydd yn cynorthwyo babanod hapus iach i fod yn gorfforol hyderus a chreadigol erbyn iddynt gyrraedd pump oed. Elfen bwysig iawn o’r gwaith gyda’r blynyddoedd cynnar yw ein cydberthnasau â rhieni a’n cefnogaeth iddyn nhw, yn enwedig y rhai sy’n rhieni am y tro cyntaf, ac ar hyn o bryd sy’n debyg iawn o fod wedi cael baban yn ystod y pandemig.
Ystyriaf mai ein rôl ni yw cysylltu a chreu llwybrau trwy ddatblygu rhaglen y Ganolfan Ddawnsio, gan sicrhau bod yna lwybrau at ddawnsio sy’n dechrau’n 0 blwydd oed ac yn parhau hyd at 100 mlwydd oed. Dw i mor falch bod y Bwrdd wedi ymddiried i fi arweinyddiaeth artistig y cwmni, ochr yn ochr â’r Cyfarwyddydd Gweithredol Suzy West, i sicrhau bod y ddarpariaeth yn cefnogi cyfranogion ac yn diwallu eu hangheniom. Dw i’n edrych ymlaen at gyd-arwain sefydliad sy’n gwrando ar ei gymunedau ac yn datblygu gan hyrwyddo taith ddawnsio pawb.”