Beth Sydd Ymlaen @ Impelo
Cylchlythtr Hydref Gaeaf 2022
Helo bawb, dyma’r newyddion diweddaraf am yr hyn sy’n digwydd yma yn Impelo, yn y Ganolfan Ddawnsio a’r tu draw, a beth sydd ar y gweill gyda ni!
Rydyn ni wedi penderfynu canolbwyntio y tymor yma ar beth sy’n digwydd yn Impelo trwy lens ein hymarferwyr dawnsio rhagorol, beth sydd wedi bod yn eu cadw nhw’n brysur, a beth sydd ar y gorwel iddyn nhw y gallech chi ymuno â nhw ynddo!
Jemma
Fel y gwyddoch chi efallai, ymgymerodd Jemma â rôl Cyfarwyddydd Artistig Impelo ym mis Gorffennaf, ac mae hi wedi bod yn prysur ymgyfarwyddo â’i dyletswyddau newydd. Wrth edrych tua’r dyfodol, rydyn ni’n edrych ymlaen yn frwd at barhau i ehangu’r hyn y gallwn ni’i gynnig yn unol â gweledigaeth Jemma! Mae Jemma’n arbenigo ym maes Datblygiad y Blynyddoedd Cynnar yma yn y Ganolfan Ddawnsio a mewn mannau eraill.
Yng nghyd-destun ein rhaglen reolaidd mae Jemma wedi bod wrthi’n arwain rhai o’n dosbarthiadau i’r Blynyddoedd Cynnar, Pysgod Mawr Pysgod Bychain a Physgod Mawr Pysgod Bach. Mae’r ddau ddosbarth hyn yn rhoi’r pwyslais ar gael plantos bach a’u rhieni/ gofalwyr i symud gyda’i gilydd gan ddarganfod y llawenydd o dreulio amser yn weithgar gyda’i gilydd mewn modd hwylus a chreadigol.
Mae hi’n gweithio hefyd ar nifer o brosiectau y tu allan i’r Ganolfan Ddawnsio, gan ddatblygu rhaglen i’r Blynyddoedd Cynnar o’r enw Bach. Bydd hon yn ymgorffori rhai elfennau o’r gwaith yr ydyn ni’n ei gyflawni’n barod, tra’n ychwanegu nifer o ddigwyddiadau newydd a sesiynau rheolaidd ar draws Powys.
Ar ben hyn mae Jemma wedi cadw golwg ar y broses o greu a dosbarthu pecynnau chwarae ar gyfer plant 0-5 mlwydd oed ar draws Powys mewn lleoliadau Blynyddoedd Cynnar a chartrefi lle gall sefydliadau a theuluoedd eu defnyddio i hyrwyddo symudiad a datblygiad ar hyd a lled y sir.
Rosa
Er nad yw hi’n newydd i Impelo, Rosa yw’r ychwanegiad diweddaraf yn ein rhaglen o ddosbarthiadau rheolaidd yn ystod y tymor; mae ganddi hi nifer o sesiynau cyffrous iawn i’w cynnig i blant ac i oedolion.
Bob nos Lun mae Rosa’n arwain dosbarth hygyrch, NEWYDD SBON a llawn hwyl i oedolion, sy’n cyfuno llawenydd a symudiadau llifeiriol dawnsio hip hop â chryfder a rheolaeth gorfforol ioga. Mae’r dosbarth Ioga Hip Hop wedi bod yn llwyddiant ysgubol hyd yn hyn!
Yn dilyn cyfres lwyddiannus o sesiynau Break Out un-tro dros y blynyddoedd, mae Rosa wedi sefydlu dosbarth Break Out hefyd i blant 7-12 oed, lle gallan nhw fagu hyder yn eu sgiliau a darganfod eu dull dawnsio stryd unigol eu hunain. Mae hi’n elfen allweddol hefyd o CELL, ein sioe ddawnsio sy’n seiliedig ar Wyddoniaeth.
Carolyn
Carolyn sy’n arwain y rhan fwyaf o’n dosbarthiadau MOJO ni ar gyfer oedolion. Mae hi’n dysgu Gwna Fel y Mynni Di!, dosbarth i ddawnswyr 55+ oed sy’n canolbwyntio ar wella ffitrwydd cyffredinol a nerth. Ar ben hyn mae hi’n dysgu ein dosbarthiadau ballet thapddawnsio i oedolion; cewch chi ddewis tapddawnsio i ddechreuwyr neu lefel ganolradd!
A Carolyn fydd yn arwain ein hymgyrch Tapathon eleni er lles Plant Mewn Angen! Os carech chi ymuno yn y Tapathon a chymryd rhan yn yr ymdrech i dorri record gyda ni ar 20ain Tachwedd, gallwch chi weld mwy o fanylion a chofrestru ar: www.theperformersproject.co.uk
Neu, os carech chi ddod draw i wylio a thapio’ch traed ar y cyrion i’n helpu ni ymlaen, bydd croeso ichi ddod i wylio’r sesiwn gweithdy yn y Ganolfan Ddawnsio ar 6ed Tachwedd ac i’n hannog ni yn ein blaenau ar 20ain Tachwedd.
Clara
Clara sy’n rhedeg ein dosbarthiadau rheolaidd gyda phlant a phobl ifanc 5 - 18 oed. Mae hi’n arwain ein dosbarthiadau Gwreichion ac Egnioli i blant sy’n eu hysbrydoli i symud a dawnsio mewn ffyrdd creadigol, llawn hwyl. Yn ogystal Clara sy’n arwain y dosbarth ieuenctid sy’n gadael i blant 11 - 18 oed ddod o hyd i’w dull eu hunain o symud yn greadigol, gan archwilio gwahanol arddulliau, gweithio ar eu techneg a choreograffio darnau mewn cydweithrediad â’r Ieuenctid.
Yn y flwyddyn newydd fe fydd Clara’n gweithio at ddatblygu prosiectau ieuenctid newydd cyffrous a fydd yn helpu plant sy’n symud ymlaen i ysgolion uwchradd, yn ogystal â gweithio i hybu hyder yn y corff.
Ar ben hyn i gyd mae Clara’n cymryd rhan mewn sawl prosiect ar wahân i’n dosbarthiadau rheolaidd ni yn y Ganolfan Ddawnsio. Mae hi’n dawnsio yn CELL. Mae hi’n hwyluso sesiynau dawnsio ar y cwricwlwm bob wythnos yn Ysgol y Cribarth, lle maen nhw’n archwilio testunau’r ysgol trwy gyfrwng symud creadigol. Mae hi’n cyd-arwain sesiynau DUETS/DEUAWDAU, lle dysgir dawnsio cyfoes i bobl ifanc mewn partneriaeth â Ballet Cymru.
Mae Clara hefyd yn aelod o gydweithfa sy’n datblygu Glanio, prosiect sy’n defnyddio gwahanol ffurfiau celf i archwilio themâu megis ymwybyddiaeth o’r hinssawdd a’n cysylltiad ni â byd natur.
Y tymor yma bydd Clara’n arwain sesiwn MOJO i oedolion, wedi’i hysbrydoli gan Strictly Come Dancing, ar 12fed Tachwedd, rhwng 2 a 4 y prynhawn!
Amy
Ar ddechrau’r flwyddyn galendr yma fe helpodd Amy ni i lansio ein rhaglen gyntaf erioed o ddosbarthiadau ballet i blant, sydd wedi bod yn boblogaidd dros ben!
Y tymor yma mae Amy wedi cymryd drosodd ein dosbarth Pysgod Bach i blant 3-4 oed bob prynhawn Mawrth. Mae hyn yn creu cyfle i blant i archwilio posibiliadau symud a dawnsio’n annibynnol, gan fagu hyder mewn awyrgylch calonogol chwareus!
Yn ogystal, bydd Amy yn arwain sesiynau symud ar y cyd â Helly dros y Bracken Trust.
Helly
Mae Helly yn cyd-arwain ein dosbarth rheolaidd “Fi, Fy Hun a Ni!” ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu, sy’n cynnig iddynt gyfle i ddechrau symud a dysgu symudiadau a dilyniannau dawnsio llawn hwyl.
Mae hi’n arwain sesiynau ar gyfer Materion Dementia ym Mhowys, gan helpu pobl sy’n byw gyda dementia yn Aberhonddu a Llandrindod. Mae Helly yn gweithio mewn partneriaeth â Mind hefyd, gan gynnal sesiwn bob mis yn Nhrefyclo, ac yn arwain sesiynau symud i’r Bracken Trust ar y cyd ag Amy.
Bethan
Mae Bethan yn cydarwain “Fi, Fy Hun a Ni!” gyda Helly, gan gynnal sesiynau dawnsio a symud ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu. Yn ogystal mae hi’n rhedeg sesiynau Materion Dementia ym Mhowys bob wythnos yn Aberhonddu ochr yn ochr â Helly.
Mae Bethan yn cyd-arwain y sesiynau DUETS gyda Clara hefyd, gan ddysgu dosbarthiadau ballet i’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y prosiect.
Mae Bethan yn weithgar hefyd mewn nifer o brosiectau eraill yn Impelo, gan gynnwys CINETIG a Bach a Iach, sy’n darparu adnoddau a hyfforddiant ar gyfer athrawon i’w galluogi i gyflwyno sesiynau symud a dawnsio yn yr ysgol gan gynnal cysylltiad rhyngddynt a’r gwaith cwricwlwm y maen nhw’n ei wneud yn y dosbarth.
Mae Bethan yn un o’r dawnswyr yn ein sioe Ddawnsio Wyddonol CELL, a fydd yn dychwelyd adref i Impelo ar ôl taith lwyddiannus dros yr haf mewn pryd i gyflwyno sioeau ar y 3ydd o Dachwedd.
Lianne
’Dyw Lianne ddim yn un o’n hymarferwyr rheolaidd gan nad yw hi’n dysgu dosbarth fel arfer. Ond mae hi’n ymarferydd allweddol yn y Ganolfan Ddawnsio serch hynny!
Mae hi wedi bod wrthi’n helpu i ddysgu sawl un o’r dosbarthiadau sydd ar yr amserlen, ac mae hi wedi dod i’r adwy yn lle ymarferwyr eraill pan nad ydyn nhw ar gael i arwain eu dosbarthiadau. Mae’n bosibl y byddwch yn ei gweld hi hefyd yn y sesiynau Tapddawnsio i Oedolion, yn arwain sesiwn MOJO misol weithiau, neu yn y swyddfa yng nghwmni ei chi bach (ciwt iawn) Paddy!
Diolch o Galon!
Diolch yn FAWR IAWN i’n holl ymarferwyr ni sy’n gwneud gwaith Impelo’n bosibl!
Yr holl waith caled, ymdrechion a brwdfrydedd y maen nhw’n eu rhoi i mewn i’w gwaith yw’r elfen hud sy’n cadw ein rhaglen yn mynd gan greu awyrgylch mor wych sy’n hybu symudiad a dawnsio i bob un sy’n cymryd rhan yn ein gwahanol ddosbarthiadau a digwyddiadau ni!
Diolch yn fawr iawn!