Galwad Dramodydd

 
 
 

Galwad Dramodydd

Mae Impelo yn chwilio am ddramodydd i weithio gyda ni ar brosiect, sydd wedi’i gyllido gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol ar destun ymgyrch Gwacáu Mynydd Epynt yn 1940.

Brîff y Dramodydd:

Rydym yn chwilio am rywun sydd â phrofiad o ddod â’n treftadaeth ni a’r celfyddydau at gynulleidfaoedd newydd, a hynny â brwdfrydedd. Byddech chi’n gweithio ochr yn ochr â’r Artist Dawnsio Arweiniol Bethan Cooper a’r gymuned leol, gan atgyfodi a rhoi bywyd newydd i hanesion y rhai a fu unwaith yn byw ar Fynydd Epynt (Powys) neu i’w disgynyddion.

Manyleb Bersonol

  • Yn ddelfrydol, rhywun sy’n medru Cymraeg

  • Cefndir mewn drama/ adrodd storïau

  • Profiad mewn creu storïau swynol i’w perfformio

  • Yn ddelfrydol, rhywun sy’n byw yng Nghymru

  • Cysylltiad â byd dawnsio neu brofiad blaenorol ohono, a dealltwriaeth o sut i greu hanesion seiliedig ar symud

  • Profiad o/ brwdfrydedd dros weithio ar brosiectau a arweinir gan y rhai sy’n cymryd rhan

  • Y gallu i hyrwyddo gwerthusiad effeithiol o’r prosiect

Ffi: £1940 am 10.5 diwrnod (gan gynnwys 6 diwrnod rihyrsio, 1 diwrnod perfformio, cyfarfodydd rheolaidd â Bethan Cooper a’ch presenoldeb mewn digwyddiadau sy’n gysylltiedig â’r prosiect) rhwng Ionawr 2023 a Gorffennaf 2023


Amdano’r Rôl

Rôl: Bydd y Dramodydd yn gweithio gyda’r Artist Dawnsio Arweiniol a Rheolwr y Prosiect i sicrhau cydlyniant y lleisiau creadigol a chymunedol a fydd yn dod ynghyd i archwilio effeithiau ac etifeddiaeth alltudio’r trigolion o Fynydd Epynt, a thrwy hynny yn cyfrannu at greu cynhyrchiad grymus cymhellol a fydd yn denu cynulleidfaoedd

Fe reolir y Contract gan Bethan Cooper - Artist Dawnsio Arweiniol ac Impelo

Fe draddodir y prosiect hwn yn Gymraeg neu’n ddwyieithog

Byddwch yn:

  • Datblygu’r stori/ naratif ar y cyd â’r Artist Dawnsio Arweiniol gan ddechrau gyda’r gwaith ymchwil ac ymlaen at greu gweithdai/ cynhyrchiad cymunedol

  • Hyrwyddo dynesiad cydweithredol at ‘adrodd hanes’ Mynydd Epynt gan adlewyrchu lleisiau’r cymunedau, y bobl ifanc a’r ysgolion sy’n cymryd rhan

  • Gweithio gyda’r Artist Dawnsio Arweiniol a gweithwyr creadigol proffesiynol eraill â’r nod o gyfleu storïau trwy gyfrwng dawnsio fydd yn swyno cynulleidfaoedd, gan arddel safonau cynhyrchu ardderchog

  • Creu, ar y cyd â’r Artist Dawnsio Arweiniol, gynnwys i weithdai cymunedol fydd yn darparu naratif cymhellol fel sail i’r cynhyrchiad

  • Gweithio gyda’r dawnswyr a gweithwyr creadigol proffesiynol eraill at greu bwrdd darlunio, dylunio a threfnu coreograffi ar gyfer y darn i’w berfformio

  • Cynorthwyo a chefnogi’r Artist Dawnsio Arweiniol mewn sesiynau rihyrsio

  • Datblygu’r brîff, ar y cyd â’r cyfranogion a’r artistiaid creadigol, ar gyfer treftadaeth ddigidol y prosiect

  • Cymryd rhan yn sesiwn myfyrio’r artistiaid

  • Contractio sesiynau rheolaethol bob pythefnos neu yn unol â’r cytundeb


Amdano’r Prosiect Epynt

Mae’r prosiect yn ymateb creadigol, wedi’i lunio ar y cyd, i effaith yr ymgyrch i glirio poblogaeth Mynydd Epynt ym 1940, gan archwilio themâu’r iaith Gymraeg, alltudio trigolion ardal gyfan a’r sgil-effaith ar y cenedlaethau olynol.

Fe gynhelir proses gynhyrchu gydweithredol yn cynnwys cymunedau Cymraeg eu hiaith, pobl ifanc a dawnswyr proffesiynol, â’r nod o ddatblygu a pherfformio darn dawnsio a chreu treftadaeth ddigidol.

Deilliant y Prosiect:

  • 12 o sesiynau cyd-ddyluniedig gyda disgyblion Ysgol Calon Cymru

  • 4 o gyfarfodydd/sgyrsiau creadigol pontio’r cenedlaethau â’r nod o fagu ymddiriedaeth trwy fwyta a chael hwyl gyda’n gilydd a chwrdd â gwahoddedigion arbennig

  • 24 o hanesion llafar yn archwilio themâu alltudio poblogaethau yng nghyswllt trawma ar draws a rhwng cenedlaethau

  • Cynhyrchu darn gwaith newydd, seiliedig ar berfformiad, ar Fynydd Epynt gan gast cymysg o berfformwyr proffesiynol ac amatur

  • 2 berfformiad

  • Asedau digidol wedi’u cyd-ddylunio

  • Adnoddau dysgu yn unol â’r Cwricwlwm Newydd i Gymru

  • Gwerthusiad

  • Sylw’r cyfryngau

Pobl y Prosiect:

Llywgor - Y Gaer, Aberhonddu - amgueddfa, oriel gelf, llyfrgell ac Impelo

Rhanddeiliaid – Artistiaid creadigol llawrydd, Ysgol Calon Cymru, Menter, Amgueddfa Genedlaethol Cymru Sain Ffagan, cymunedau o gwmpas Mynydd Epynt.


I Geisio

Mae pob ffurf a math o amrywiaeth yn gwneud y prosiect yma a’n holl brosiectau eraill ni’n gryfach; ein nod pendant yw annog pobl F/fyddar ac anabl, pobl o’r Diaspora Affricanaidd, pobl o Dde Ddwyrain a De Asia, a phobl o drasau ethnig amrywiol eraill i ymgeisio.

Os oes diddordeb gennych yn y prosiect a charech chi ddysgu rhagor, os oes gennych chi anabledd a/neu ofynion o ran mynediad B/byddar i’ch helpu i geisio, neu os oes gennych chi gwestiynau/holiadau, yna ffoniwch neu ebostiwch suzy@impelo.org.uk neu’r Artist Dawnsio Arweiniol bethan@impelo.org.uk i gael trafodaeth anffurfiol.

Wrth geisio am y swydd dylech chi anfon CV cyfredol ac un o’r eitemau canlynol:

  • Neges sain 5 munud yn amlinellu eich profiad proffesiynol perthnasol

  • Fideo 5 munud yn amlinellu eich profiad proffesiynol perthnasol

erbyn 30fed Ionawr 2023 i:

Suzy West

Impelo

Ffôn: 01597 824370 / 07563 588467

Ebost: suzy@impelo.org.uk

 
Admin Impelo