Galwad Dawnswyr

 
 
 

Galwad Dawnswyr

Carem weithio gyda 2 ddawnsiwr/wraig neu artist symud ar unrhyw gam yn eu gyrfa sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru, yn ardal Machynlleth os oes modd, ar ein prosiect perfformio nesaf, wedi’i greu ar y cyd, o’r enw ‘GLANIO’. 

Gobeithiwn weithio gydag artistiaid sy’n ymddiddori mewn prosesau creadigol sy’n archwilio cysylltiadau â byd natur, cyfiawnder hinsoddol, meithrin cymuned a rôl y celfyddydau ym maes gweithredu ynghylch yr hinsawdd.

Partneriaeth yw Glanio rhwng 3 o bobl greadigol - Marla King (hi), Clara Rust (hi) a Fin Jordão (nhw), ac Impelo. Fe ddaethom ynghyd i archwilio ymateb creadigol i’r argyfwng hinsoddol ac ecolegol a wynebwn ni, ac i ddarganfod modelau perfformio amgen ac arferion celfyddydol sy’n gymdeithasol ymrwymedig.

I geisio:

Ebostiwch jemma@impelo.org.uk erbyn y dyddiad cau (5yp 23ain Ionawr 2023) gan gynnwys yr eitemau canlynol: 

  • Paragraff byr (100 o eiriau ar y mwyaf) neu neges sain/fideo byr yn mynegi eich diddordeb mewn ymgeisio ar gyfer y prosiect

  • Dolen gyswllt â fideo symud (tua 2 funud, naill ai fideo arddangos ‘showreel’ neu improv)

  • CV/ disgrifiad o’ch profiad o berfformio/ symud/ diddordebau (ar ffurf dogfen, sain neu fideo)

Mae pob ffurf a math o amrywiaeth yn gwneud y prosiect yma a’n holl brosiectau eraill ni’n gryfach; ein nod pendant yw annog pobl F/fyddar ac anabl, pobl o’r Diaspora Affricanaidd, pobl o Dde Ddwyrain a De Asia, a phobl o drasau ethnig amrywiol eraill i ymgeisio. 


Fe ddefnyddiwn ni’r wybodaeth hon i ddethol yr artistiaid dawnsio llwyddiannus, gan eich hysbysu erbyn 30ain Ionawr.