Cyfarwyddwr Artistig newydd i Impelo

 
 
 

Three photos of Jemma Thomas, the first of her dancing in the studio, arms wide; the second of her stood smiling, hand on hip; the third of her sat in the dance studio with young children grinning and touching her toes

Cyfarwyddwr Artistig newydd i Impelo

Mae’r sefydliad elusennol Impelo, sy’n gweithredu o Landrindod, wedi datgan penodiad Jemma Thomas yn Gyfarwyddydd Artistig a chyd-Brif Swyddog Gweithredol newydd.

Mae Jemma Thomas, sydd wedi dawnsio ym Mhowys ers iddi fod yn dair blwydd oed,  yn dod â chyfoeth o brofiad fel ymarferydd dawnsio, hwylusydd, perfformwraig, rhaglennydd a choreograffydd at ei swydd newydd yng Nghanolfan Ddawnsio Llandrindod.

Mae hi wedi cyfrannu’n sylweddol dros y chwe blynedd ddiwethaf hyn at ddatblygu gwaith Dysgu Creadigol Impelo mewn ysgolion a lleoliadau Blynyddoedd Cynnar ledled y sir, yn ogystal â’r ddarpariaeth fewnol ym maes dawnsio ac iechyd fel rhan o’i rôl fel Cyd-Drefnydd Rhaglen Impelo.

Ar ben hyn mae hi wedi eirioli dros yrfaoedd i ddawnswyr llawrydd trwy gyfrwng rhaglen Y Nyth.Chwaraeodd Jemma rôl o bwys wrth i gwmni Dawnsio Powys ymgymryd â’i hunaniaeth newydd fel Impelo rai blynyddoedd yn ôl; ei deinamigrwydd a’i hawch hi am gysylltu pobl a newid eu bywydau trwy gyfrwng dawns sydd wrth galon cenhadaeth Impelo.

Gweledigaeth Jemma yw adeiladu diwylliant lle bydd pawb yn teimlo’r cyffro mewn dawnsio a gynigir gan Impelo – yn union fel y’i teimlodd hithau wrth dyfu lan tra’n mynychu dosbarthiadau yn y Ganolfan Ddawnsio a mannau eraill.

 

Dywedodd Jemma Thomas, Cyfarwyddydd Artistig newydd Impelo:

“Mae hyn yn anrhydedd llawen anferth. Dw i mor awyddus i newid y byd trwy ddawnsio, gan gadw ein cyfranogion ar reng flaen popeth a wnawn ni. Dw i am iddyn nhw gael eu hadlewyrchu bob amser ym mhob agwedd ar ein gwaith ni, a dw i am wreiddio Impelo’n ddwfn ym Mhowys fel y gallwn ni ddal i ymgryfhau gyda chymorth ein cymunedau. O ran dyled i’r groten a oeddwn i, ac a dyfodd lan yma, dw i eisiau creu llwybrau cadarnhaol trwy’r celfyddydau er lles ein pobl ifanc, ac fe fydda i’n danbaid frwdfrydig wrth gyflawni hyn. Dw i wrth fy modd i fod mewn sefyllfa lle galla i feithrin gyrfaoedd dawnswyr llawrydd ym Mhowys, adeiladu ar sail ein gwaith gwych mewn addysg a’n gwaith prosiect ar gyfer pawb o fabanod i bobl hŷn, a chynnig y profiadau gweithdy a pherfformio gorau yn ein sir i bob un sy’n cymryd rhan. Mae gan ddawnsio rôl anferth, rymus i’w chwarae yn ein hiechyd corfforol a meddyliol ni, a dw i’n awyddus i archwilio hyn trwy ddulliau gweithredu hwylus, ewn a di-dwyll Impelo. Dw i’n edrych ymlaen at ddawnsio gyda chi i gyd cyn bo hir!”



Dywedodd Jennifer Owen - Adams, Cadeirydd Ymddiriedolwyr Impelo: 

“Mae’n bleser o’r mwyaf gennym ddatgan y bydd Jemma Thomas yn llenwi rôl ein Cyfarwyddydd Artistig a Chyd-Brif Swyddog Gweithredol. Rydym yn gwir werthfawrogi ei brwdfrydedd dros ymgymryd â’r swydd, a’i gallu a’i hawydd hi i adeiladu ar sail yr ystod anhygoel o bartneriaethau sydd gan Impelo’n barod â chymunedau, â’r trydydd sector a’r sector statudol, ac â dawnswyr cyfredol a rhai’r dyfodol. 

Trwy ei harweinyddiaeth hi yn ein gwaith gyda phlant dan bum mlwydd oed, ein rhaglenni addysg a’n rhwydwaith ar gyfer dawnswyr proffesiynol yn arbennig, mae Jemma wedi arddangos ei gweledigaeth artistig a’i hymrwymiad cadarn i ddawnsio fel arf rymus yn y frwydr dros wella iechyd ac addysg ein cymuned a chynnig cyfleoedd a all weddnewid bywydau. Y nodweddion hyn, ynghyd â’i hamgyffred a’i phrofiadau personol hi o feithrin math o ddawnsio ym Mhowys sy’n artistig uchelgeisiol ac yn gymdeithasol berthnasol – dyna sy’n golygu mai Jemma yw’r person delfrydol i fynd ag Impelo ymlaen at y cam nesaf yn ei ddatblygiad”.

 
Admin Impelo