#SymudwnNi

 
 
 
‘When I heard that Impelo would no longer receive funding, I was devastated. I know this sounds dramatic but it has been life changing for me. There is no other organisation in our area that does what Impelo does. If it closes it will leave a huge gap that will probably never be filled.’
— Impelo over 60’s participant.
 
 

Fel yr unig sefydliad elusennol sy’n darparu gweithgareddau dawnsio cymunedol ledled Powys, teimlwn reidrwydd i fynegi ein siomedigaeth wrth ragweld effaith eang y penderfyniad i ad-drefnu portffolio Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) yn sgil yr adolygiad buddsoddi – yr effeithiau nid yn unig ar ein sefydliad, ein gweithlu a’n cyfranogion ni, eithr ar y sector dawnsio cymunedol i gyd ar draws Cymru, ac oherwydd yr effeithiau anghymesur y bydd toriadau ar draws gwahanol gelfyddydau’n eu cael ar y rhai sy’n byw yng nghefn gwlad Cymru, ac yn enwedig ym Mhowys sy’n wynebu gostyngiad mewn buddsoddiad o chwarter miliwn o bunnoedd ymron.

Rydym wedi gweithio ers mis Ionawr 2023 gyda llu o bartneriaid at ddarparu rhyw 1,000

o sesiynau dawnsio a symud creadigol ar gyfer 14,000 o gyfranogion, a chyflwynasom saith o berfformiadau dawnsio mewn ysgolion, lleoliadau blynyddoedd cynnar, iechyd a gofal, a’r Ganolfan Ddawnsio.  Mae rhyw 270 o bobl yn dod i ddefnyddio’r Ganolfan Ddawnsio bob wythnos, gan greu incwm rheolaidd parhaus ar gyfer 8 o ymarferwyr dawnsio a chyllid prosiectau sy’n cynnal llawer mwy. Mae ein dawnsiwr hynaf ni yn 87 oed, a’r un ieuengaf yn 12 wythnos oed. Mae ein sesiynau dwy-wythnosol yn ymestyn ymhell y tu draw i’r Ganolfan Ddawnsio i gyrraedd cyfranogion ledled Powys mewn lleoliadau gofal a chanolfannau dementia. Mae hyn yn ychwanegol at ein gwaith arloesol gyda phlant y blynyddoedd cynnar a ddarperir ar hyn o bryd yn Y Drenewydd, lle rydym yn llunio methodoleg sy’n meithrin datblygiad emosiynol trwy gyfrwng dawnsio a’r iaith Gymraeg. Mae’r 10 o ysgolion yr ydym yn eu cefnogi ar hyn o bryd wedi’u lleoli yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Powys, lle rydym yn cyflawni gwaith sydd wedi’i deilwra at yr amgylchiadau penodol.

Ali Curzon Photography

Image has a purple wash over it and is of a dance studio full of parent and toddler participants, up close to the camera is a young girl and her dad tapping their hands together in a ‘high 10’. There is visible joy and happiness on their faces.

Rydym wedi gwario £109,000 ar artistiaid dawnsio llawrydd, ac mae 3 o’n 5 aelod staff rhan-amser yn ymarferwyr dawnsio – mae ein hymrwymiad i ddarparu profiadau dawnsio safonol a meithrin doniau dawnsio yng Nghymru’n sicrhau ein bod bob amser yn addasu, yn cwestiynu, yn gwella ac yn chwilio’n ddi-baid am ffyrdd newydd o gyflawni ein gwaith. Rydym yn gweithio’n rheolaidd gydag 16 o artistiaid dawnsio, a chynorthwy-wyd yr artistiaid hyn y llynedd gan Impelo wrth iddynt greu Glanio ac Epynt, dau berfformiad cyd-luniedig a archwiliai themâu cyfiawnder hinsawdd a sefyllfa’r iaith Gymraeg, ar sail proses o ymgysylltu â’r gymuned a chreu ar y cyd.

Impelo give me a huge amount of hope that it is possible to not only survive, but thrive as a freelance dance artist outside of the city, something deeply important to me as someone who grew up in rural Wales
— Freelance dance artist in Wales.

Mae’n anodd inni amgyffred beth fydd yr effaith ar fywyd diwylliannol ym Mhowys, o’i chymharu â’n gwaith ni dros y 10 mlynedd diwethaf, o ystyried y toriadau di-baid a’r cyfyngu ar rwyddfynediad y gymuned at y celfyddydau. Mae trigolion creadigol, chwilfrydig cefn gwlad Cymru’n haeddu profiadau rhyfeddol, cyfoethog yn y celfyddydau, a ’does dim dwywaith y bydd yr adolygiad buddsoddi hwn yn amharu ar fynediad pobl ledled Powys at y celfyddydau.

Daeth penderfyniad Cyngor Celfyddydau Cymru’n ergyd drom. Yn unol â phob un o flaenoriaethau cynllun corfforaethol CCC yr oedd ein statws portffolio’n gadael inni ei chyflawni, rydym wedi perfformio’n well na sefydliadau eraill ledled Cymru sydd â gwell adnoddau na ni, o safbwynt hybu cyfranogiad ac ymarferion uchelgeisiol sy’n ymgysylltu â’r gymuned. Rydym yn cydweithio bob blwyddyn â rhyw 40 o sefydliadau ym meysydd iechyd a’r trydydd sector yn ogystal ag ysgolion. Mae hyn ar ben ein gwaith allgymorth mewn cymunedau sy’n dioddef anghydraddoldebau economaidd, systemig ac o ran iechyd. 

Full Mongrel & Co Photography

Image has a purple wash over it and shows an outdoor dance performance being undertaken by 10 performers. They are gathered around a bench with greenery surrounding them, they are on different levels with some sat and some standing. There is a male performer sat in the middle whilst the other performers are animated with their arms, depicting a fire burning. This is an image from our Epynt performance at Y Gaer in Brecon.

ACW should be supporting an organisation like Impelo and using it as a benchmark for other organisations.
— Freelance dance artist based in Powys.

Yn ystod yr wythnos ers y datganiad, rydym wedi siarad â’n cefnogwyr, â chyfranogion, sefydliadau partnerol a’r gweithlu llawrydd i gael goleuni pellach ar effaith ein gwaith a’r effaith ddichonol a welir ar gymunedau yn sgil lleihad neu diwedd gweithgareddau’r cwmni, fel y gallwn ni benderfynu ar ffordd gynaliadwy ymlaen yn y dyfodol.

Mae’r datganiadau diffuant a glywsom gan bobl a oedd wedi dod o hyd i weithgareddau Impelo ar adegau dyrys iawn yn eu bywydau, ac a deimlai fod eu cysylltiad â’r cwmni wedi cyfoethogi eu bywydau, wedi effeithio’n ddfwn arnom.  Yn eu plith yr oedd rhieni newydd a oedd yn wynebu bywyd ynysedig, unig, pobl a oedd yn byw gyda Dementia a chlefyd Parkinson, a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Cewch ddarllen llawer o’u hymatebion yma: https://www.impelo.org.uk/impact-wemove

The inclusiveness of Impelo is impressive; not only are classes provided at the Centre for a range of ages and abilities, in a number of different dance styles, but also I am aware of their outreach work. I have witnessed first hand their interventions with a Dementia Support group, who visibly bloomed as they joined in the activities offered.
— Impelo adult dance participant

Full Mongrel & Co Photography

Image has a purple wash over it and shows 2 participants in a dance studio in the middle of an exercise. You can only see from their torso up and close up and one participant is quite blurred. Both female and over 50 they have their arms raised in the air with a look of focus and concentration. This is from our over 55’s dance session, Do Your Thing!

Diolch i’r cyllid oddi wrth Gyngor Celfyddydau Cymru roeddem yn gallu cynnal rhaglenni dros sawl blwyddyn a gynorthwyai weithwyr proffesiynol i fyw a gweithio yn yr ardal ac i osod y gymuned wrth galon eu dawnsio. Y cyllid hwnnw sy’n ein cadw ni i fynd i bob pwrpas; heb hwnnw, mae’n anodd inni weld sut gellir cadw’r bêl ddisglair yn troi a sicrhau bod yr holl gyrff hynny’n dal i droi a chwyrlio. Rydym yn wynebu dyfodol tra ansicr, ond rydym yn wydn ac yn ymwybodol o’n gwerth ni. Mae galwad galonogol y rhai y rhai yr ydym wedi’u dysgu a gweithio gyda nhw, y rhai sydd wedi ein gweld ni’n perfformio neu wedi cefnogi ein gwaith mewn unrhyw ffordd yn ein sbarduno ymlaen wrth inni ddechrau ar bennod newydd yn hanes Impelo, pennod a fydd yn fwy llwyddiannus o lawer na’r hyn a fu.

Jemma, Suzy, Damien ac Ymddiriedolwyr Impelo

Gellir darllen llythyr agored gan y gymuned ddawnsio at Gyngor Celfyddydau Cymru yma: https://shorturl.at/rDI48

#SymudwnNi




 
Jemma Thomas