Symud a Chwrdd a Chydweithfa Glanio

 
 
 

Symud a Chwrdd a  Chydweithfa Glanio

Ydych chi’n ddawnsiwr/wraig neu artist symud ac yn byw neu’n gweithio yn ardal Machynlleth? Carem eich gwahodd i ymuno â ni am y prynhawn yn ystod ein sesiwn Ymchwil a Datblygu, inni gael symud gyda’n gilydd, cwrdd a chael sgwrs dros baned, archwilio a thrafod rhai o’r themâu creadigol a chwestiynau yn ymwneud â chyfiawnder hinsoddol, meithrin cymuned a rôl y celfyddydau ym maes gweithredu ynghylch yr hinsawdd yr ydym yn eu harchwilio fel rhan o’n prosiect Glanio. 

Dyddiad: Sul 15fed Ionawr 2023

Lleoliad - Senedd-dŷ Owain Glyndŵr - Machynlleth

Amser: 1:30yp - 3:30yp

Os carech chi ddod draw, byddai’n wych cwrdd â chi. 

Anfonwch ebost i jemma@impelo.org.uk i’n hysbysu eich bod chi am ymuno â ni am y prynhawn
Os oes gennych chi anghenion penodol ynghylch mynediad, neu holiadau ynghylch y cyfarfod, cysylltwch â ni heb betruso -  jemma@impelo.org.uk