Beth Sydd Ymlaen @ Impelo

 
 
 

Medi 2023

Plymiwch i mewn i fis Medi llawn hwyl gyda ni yn Impelo, fel rhan o dymor yr Hydref Hyfryd! Ym mis Medi eleni mae gennym bentwr aruthrol o bethau gwych sy’n digwydd yn y Ganolfan Ddawnsio a mannau eraill, y caren ni ichi ddysgu amdanyn nhw!


Mae ein rhaglen ddosbarthiadau rheolaidd yn ail-ddechrau ar yr 11eg o Fedi. Rydyn ni’n ysu am gael gweld pawb eto, gan obeithio eich bod chi i gyd yn barod i ail-ymuno â’n dosbarthiadau dawnsio gyda’n holl ymarferwyr dawnsio anhygoel ni! Sbïwch ar amserlen yr hydref isod i wneud yn siŵr eich bod chi’n barod am eich dosbarthiadau dawnsio – os nad ydych chi wedi cadw’ch lle mewn dosbarth eto, dyma’r ddolen: https://www.impelo.org.uk/book-a-class


Mae’n bleser aruthrol inni allu eich hysbysu y bydd Cydweithfa Glanio’n ymuno â y mis yma yn Llandrindod. Byddan nhw’n cynnal gweithdai mewn ysgolion, sesiwn mewn clwb ieuenctid, a sesiwn ddawnsio cymunedol yn yr awyr agored – bydden ni wrth ein bodd pe gallech chi ymuno â ni yno. Bydd yna rywbeth at ddant pawb! Ar ddiwedd eu hamser gyda ni fe fydd Cydweithfa Glanio’n cynnig TRI pherfformiad yn yr awyr agroed yn Llandrindod y gallwch chi fynd i’w gweld YN RHAD AC AM DDIM! Cynhelir y perfformiadau hyn ar y 30fed o Fedi am 2:00yp, ac ar y 1af o Hydref am 1:00yp a 3:30yp (cadarnheir y lleoliad yn nes ymlaen) – fe roddwn ni’r manylion i gyd ichi yn y man! 

Os carech chi ddysgu rhagor am Gydweithfa Glanio a’u hamser yn Llandrindod, neu archebuun o'u gweithdai agored, ewch at dudalen we Glanio yn Llandrindod: 


https://www.impelo.org.uk/glanio-yn-llandrindod


Ym mis Medi fe fyddwn ni’n lansio Hwb Creadigol, ein rhaglen ddysgu ar gyfer ysgolion cynradd ac uwchradd, gan gynnig llu o gyfleoedd dysgu creadigol i ddysgwyr a staff dysgu ar hyd a lled Powys. Byddwn ni’n gweithio mewn ysgolion targededig trwy gydol y flwyddyn ysgol, gan roi’r pwyslais ar gynorthwyo dysgwyr i fod yn greadigol ac yn chwilfrydig trwy gyfrwng dysgu ymgorfforedig. Byddwn ni’n edrych ymlaen hefyd at gefnogi rhaglen hyfforddi ysgolion Bach a Iach ar y cyd â Chwaraeon Powys a Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gysylltu ag athrawon yn ddigidol eleni mewn hyfforddiant cefnogol cyffrous. Os ydych chi’n athrawes/athro ym Mhowys, cysylltwch â jemma@impelo.org.uk i gael mynediad at ein hadnoddau dysgu creadigol ar gyfer eich ysgol chi.


Yr 20fed o Fedi yw Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol. I roi hwb inni i gyd felly i fynd ati i symud, rydyn ni wedi postio rhestr o rai o’n hoff ganeuon ni. Pa un ai mynd am dro o gwmpas yr ardd sydd orau gennych chi, ynteu ddawnsio yn y gegin neu neidio o lawenydd, mae’r rhestr chwarae yma’n sicr o wneud ichi gamu’n sioncach! Mae’n hanfodol bwysig inni gofio bod cadw’n actif yn ffordd wych o aros yn iach. Mae hyd yn oed pum munud o symud yn ysgafn yn gam pwysig i’r cyfeiriad iawn – beth bynnag sy’n gweithio i chi!  


Rydyn ni’n YSU AM WELD beth sydd gan fis Medi i’w gynnig inni. Rydyn ni’n fwy na pharod i gamu mas i’r llawr dawnsio unwaith eto a bwgio ein ffordd i mewn i’r tymor newydd – gwelwn ni chi toc yn y Ganolfan Ddawnsio! 

 
Admin Impelo