Sbri, Rhwydwaith Dawns Blynyddoedd Cynnar Cymru: CADWCH Y DYDDIAD A GALWAD

 
 
 
A young girl with her female parent or carer sat together on the floor doing dance movements. A colourful logo saying Sbri, The Early Years Dance Network for Wales, Rhwydwaith Dawns Blynyddoedd Cynnar Cymru is in the bottom left of the image

Sbri, Rhwydwaith Dawns Blynyddoedd Cynnar Cymru: CADWCH Y DYDDIAD A GALWAD

Cyfle i ymgynnull, rhwydweithio, trafod a datblygu rhwydwaith effeithiol i hybu dawnsio i’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru, gan gynnig siawns ichi gydrannu eich ymarfer ac ymgysylltu ag artistiaid ac ymarferwyr o bob cwr o Gymru sydd naill ai’n gweithio neu’n datblygu eu hymarfer ym maes symud ar gyfer y blynyddoedd cynnar – ac ar ben hyn oll, sleisen neu ddwy o deisen flasus a’r coffi gorau sydd ar gael ym Mhowys!


Sadwrn 18fed Chwefror 2023

10 - 4yp

Y Ganolfan Ddawnsio, Llandrindod, Powys, LD1 5HE

Croeso I bawb, ebost: sbri.network@gmail.com i archebwch eich lle.


Y bwriad yw cyflwyno 20-30 munud o’ch gwaith chi yn ystod ein cyfarfod rhwydweithio cyntaf ar 18fed Chwefror 2023. Gallai hyn fod yn weithdy ymarferol, sgwrs, trafodaeth wedi’i hwyluso, rhannu darn o fideo, cyflwyno astudiaeth achos ayyb.

Mae ffi o £150 i gyflenwi’r amser a dreuliwch chi ymlaen llaw yn meddwl am y rhan yma o’ch ymarfer, cynllunio eich cyflwyniad a’r cyflwyniad ei hun.

Os oes diddordeb gennych, anfonwch EOI (datganiad o ddiddordeb) at sbri.network@gmail.com erbyn 1 Chwefror yn cynnwys paragraff amdanoch chi a’ch ymarfer, ynghyd ag unrhyw ddolenni/ dogfennau sy’n gysylltiedig â’ch cyflwyniad arfaethedig yng nghyd-destun y blynyddoedd cynnar.

Rhaid ichi fod ar gael i gymryd rhan yn y diwrnod rhwydweithio ym Mhowys ar 18fed Chwefror 2023 (gallwch chi ei fynychu’n ddigidol).

  • Os oes gofynion penodol gennych chi o ran rhwyddfynediad, mae croeso ichi gysylltu â ni.

  • Os oes cwestiynau gennych chi, neu os carech chi gael sgwrs anffurfiol, ebostiwch sbri.network@gmail.com

 
Admin Impelo